|
|
Clare
yn gosod y safon
Mae Clare Richards eisoes wedi helpu gwaith
Padeswood i ennill nifer o dystysgrifau pwysig am iechyd a diogelwch
- bellach, mae hin wynebu sialens fwy fyth.
Y wraig 29 oed sydd wedi ei phenodi yn Rheolwr Ansawdd i Castle
yn y gwaith ac fe fydd hynnyn cynnwys gosod safonau ar gyfer
yr odyn newydd.
"Un o fy amcanion fydd estyn y systemau hyn i mewn i fy ngwaith
newydd," meddai. "Dw in gobeithio adeiladu ar ein
llwyddiannau hyd yma gan sicrhau fod ein rheolaeth ar safonau yn
mynd yn dynnach a thynnach o flwyddyn i flwyddyn."
Mi fydd ei rôl hi yn ganolog, yn cadw llygad ar yr holl broses
- o ansawdd y deunyddiau syn dod i mewn ir gwaith i
safon y clincer sment syn ei adael.
|
|
|
Cemeg a cheffylau
Mae Clare yn ferch leol o Acrefair ger Wrecsam ac wedi bod
gyda Castle yn Padeswood ers mwy na 6 blynedd.
Yn ystod ei chyfnod yn y gwaith, mi osododd systemau iechyd
a diogelwch, gan gynnwys y safon ryngwladol ISO 9001/2000.
Cemeg oedd ei gradd yn y coleg, a bydd yn defnyddio hynny
yn ei swydd newydd.
Prif hobi Clare yw marchogaeth ceffylau -
un broblem efor job newydd yw y bydd amser yn brinnach i
ddilyn yr hobi hwnnw.
|
|