Y
Ffordd Orau
Mae adroddiadau gan
y llywodraeth ac or senedd wedi gwneud yn glir mai cynhyrchu
sment yw un or ffyrdd gorau o ddefnyddio teiars wast.
Maer gwres uchel iawn mewn odyn sment yn llosgir defnyddiau
yn llwyr, tran cael gwared ar nwyon asidig a metelau oherwydd
natur alcalïaidd cynnwys yr odyn. Bydd lludwn cael
ei gynnwys yn y clincer sydd wedyn yn sail ir sment gorffenedig.
Barn
y llywodraeth
Gall
yr odyn newydd helpu i atal argyfwng
Byddair prosesau cynhyrchu yn odyn
newydd arfaethedig Padeswood yn helpur Cynulliad Cenedlaethol
i ddatrys argyfwng tros safleoedd claddu gwastraff.
Byddai hefyd yn cwrdd â llawer or meini prawf sydd
wedi eu gosod ym mholisïaur Cynulliad ar gyfer datblygu
cynaliadwy.
Trwy losgi teairs gwastraff, byddair odyn newydd yn helpu
i wynebu a datrys problem fawr pan fydd teiars or fath yn
cael eu gwahardd o safleoedd claddu gwastraff yn 2003.
Mae cwmnïau trin teiars yng Ngogledd-ddwyrain Cymru wedi
rhybuddio bod argyfwng ar y ffordd, gan ddweud y byddair
odyn newydd yn helpu eu busnesau nhw a helpur amgylchedd
hefyd.
Mae
cynhyrchu sment yn ffordd werthfawr o ail-ddefnyddio gwastraff.