Cartref
Padeswood
Pobl
Odyn
Cysylltwch

 

 




Danny Coulston - Rheolwr Cyffredinol newydd Castle Cement yn Padeswood

 

 

Dyn newydd yn dechrau ar drothwy cyfnod cyffrous

Mae’r dyn sydd wedi ei benodi i lywio un o brif ddatblygiadau diwydiannol Cymru yn dechrau ar ei swydd newydd ddydd Llun (Tachwedd 11).

Danny Coulston, 40 oed, yw Rheolwr Cyffredinol newydd Castle Cement yn Padeswood ger yr Wyddgrug, lle mae’r gwaith newydd ddechrau ar godi odyn newydd gwerth £48 miliwn.
"Rwy’n edrych ymlaen at y sialens," meddai. "Mae’n gyfnod cyffrous i ddod i Padeswood a sicrhau fod datblygiad mor bwysig yn mynd yn ei flaen yn esmwyth.
"Rwyf eisoes wedi bod yn gweld rhai o’r gweithwyr ac mae’n amlwg fod yno dîm ardderchog o bobl. Roedd pawb yn y cwmni’n dweud mai Padeswood yw’r lle i fod gyda’r buddsoddiad newydd."
Mae gan Danny Coulston yn briod gyda dau blentyn - Justin, 10 oed, sy’n chwaraewr pêl-droed a thennis brwd a merch 2 oed, Ellie. "Maen nhwthau wedi ymweld â’r ardal ddwywaith erbyn hyn ac maen nhw’n dechrau teimlo’n gyffrous," meddai.
Mae Danny Coulston yn enghraifft berffaith o ymroddiad cwmni Castle i hyfforddi a datblygu gweithwyr. Fe ymunodd gyda’r cwmni yn brentis 17 oed.
Fe enillodd ONC a HND mewn peirianneg cyn cael cefnogaeth Castle i gymryd gradd fusnes a rheolaeth MBa - un o’r cynta’ yn y cwmni i wneud hynny.
Yn ystod mwy nag 20 mlynedd gyda Castle, mae wedi gweithio ar sawl un o’r prosesau, gan ennill gwybodaeth eang am gynhyrchu sment. Cododd trwy’r rhengoedd i fod yn rheolwr ar nifer o wahanol adrannau cyn ei ddyrchafiad i Padeswood.
Mae hefyd wedi gweithio yn nau waith arall Castle, yn Ribblesdale a Ketton, sydd eisoes yn defnyddio technoleg debyg i’r odyn newydd yn Padeswood, gan gynnwys tanwyddau sy’n creu ynni o wastraff.
"Mae ein profiad ni yn y ddau waith yn dangos fod y tanwyddau yma yn rhatach i’w defnyddio ond, yn bwysicach, maen nhw’n llawer gwell i’r amgylchedd, yn fwy sefydlog ac yn gollwng llawer llai o gemegau i’r awyr."
Mae Danny Coulston yn dilyn yn ôl traed Tony Allan, sydd wedi ei ddyrchafu yn Gyfarwyddwr Cynhyrchu Castle Cement i gyd. Mae yntau wedi addo cadw’i gysylltiadau clos â Chymru.
"A minnau’n ddarpar-gadeirydd CBI Gogledd Cymru, rwy’n benderfynol i ddal ati i godi llais ar ran economi’r gogledd-ddwyrain a’r diwydiannau traddodiadol," meddai.
Bydd Danny Coulston yn parhau gyda pholisi Tony Allan o gadw drws agored i’r cyhoedd a bydd yn parhau i gynnal cyfarfodydd cyson gyda’r pwyllgor cyswllt lleol.

 

 

 

 

^^top y dudalen --Dylunwyd gan StrataMatrix
{( )}