Cartref
Padeswood
Pobl
Odyn
Cysylltwch

 

 



Gofeb Ryfel yng Ngwernymynydd

 

 

Canmol Castle am help i gofio

Mae cymuned leol wedi diolch i Castle am eu helpu i gofio eu hanwyliaid yn ddiogel ac mewn heddwch.

Chwarel Castle yng Nghefn Mawr a roddodd ddeunyddiau, offer a help llaw i symud y Gofeb Ryfel yng Ngwernymynydd o safle peryglus ger priffordd i lecyn tawel yn agos at Ganolfan y Pentref.

"Heb gymorth Castle, fyddai’r prosiect yma ddim yn bosibl," meddai Martin Richardson, Clerc i Gyngor Cymuned Gwernymynydd.

"Mae’r safle newydd ganwaith yn well. Roedd rhaid i bobl sefyll yng nghanol y ffordd adeg Sul y Cofio ac roedden ni’n poeni am y peryg o ddamwain fawr.

Meddai Noel Williams, rheolwr Chwarel Cefn Mawr: "Rydym wrth ein bodd i allu helpu. Mae’r chwarel o fewn ffiniau Cyngor Cymuned Gwernymynydd ac mae’r cynllun yn amlwg yn bwysig i bobl leol."

Gofalu am y Gofeb
Roedd rhaid datgymalu’r gofeb wreiddiol fesul carreg ar ei safle ger priffordd yr A494.
Paratowyd safle newydd ger Canolfan y Pentref, gyda seiliau newydd a llwyfan concrid.
Roedd rhaid cario’r cerrig o un safle i’r llall.
Ailgodwyd y gofeb yn union fel yr oedd yn wreiddiol.

 

 

 

 

^^top y dudalen --Dylunwyd gan StrataMatrix
{( )}